Hyfforddwyd Mark Llewelyn Evans, sy’n ganwr opera o Gymru, yn awdur, ac yn entrepreneur creadigol, yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall ac yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol yn Llundain. Am dros chwarter canrif, mae Mark wedi cyd-weithio â nifer o enwogion y byd adloniant, gan gynnwys y Foneddiges Kiri Te Kanawa, David Blaine a Syr Bryn Terfel. Mae wedi teithio’r byd yn canu’r prif rannau mewn tai opera rhyngwladol, ar ffilm fawr, boblogaidd, yn ogystal â chanu ‘Cwm Rhondda’ o flaen torf o 75,000 cyn un o gemau rygbi Pencampwriaeth y Chwe gwlad.
Aeth albwm gyntaf Mark i frig y siartiau clasurol, a bu ei gân sengl, er budd Apêl Affganistan y Gwarchodlu Cymreig, ar frig siartiau’r DU. Yn 2015, penderfynodd Mark fynd â’i gariad at opera gam ymhellach gydag ABC yr Opera, er mwyn apelio at y genhedlaeth nesaf. Mae ABC yn rhoi gwersi bywyd amhrisiadwy i blant drwy gyflwyno mewn ffordd hwyliog fywydau a cherddoriaeth rhai o gyfansoddwyr mwyaf y byd. Mae hyn yn magu hyder, yn dathlu gwahaniaethau ac yn annog addysg greadigol.
Mae ABC yn adeiladu perthynas â’r plant sy’n eu cefnogi mewn ffordd hynod. Mae’n fframwaith ar gyfer eu haddysg gyfan.
Janet Hayward, pennaeth Ysgol Gynradd Cadoxton, Y Barri
Mae Mark yn credu’n angerddol y dylai pob plentyn fedru gwireddu ei freuddwyd, a thrwy gyfrwng dulliau dysgu ABC, mae’n amlwg bod hyn yn bosib, felly AMDANI, BLANT CYMRU! Cyflwynwyd ABC mewn dros 197 o ysgolion drwy’r DU, ac mae dylanwad y cynllun ar blant ifanc yn hynod bositif. O ganlyniad, comisiynwyd Mark i ysgrifennu pedwar llyfr yn adrodd hanes byd yr opera, drwy gyfrwng stori antur Jac a Megan. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn Saesneg, The Academy of Barmy Composers – Baroque, ym Mai 2019, a’r un Cymraeg, Academi Benwan y Cyfansoddwyr – Y Baròc, yn Awst 2020. Bydd yr ail lyfr, Classical yn dod ym mis Hydref 2020, gyda Romantic a Modern i ddilyn yn y dyfodol. ANY BODY CAN. ABC has now delivered to over 197 schools throughout the UK with remarkable positive impact on our young learners and from this Mark was commissioned to write four books telling the story of opera as an adventure for two children Jack and Megan. The first book “THE ACADEMY OF BARMY COMPOSERS – BAROQUE” was released in May 2019. Book 2 “CLASSICAL” will be released in October 2020 with Romantic and Modern to follow.
Rhoddwyd yr Amati Guildhall Creative Entrepreneurs award i Mark yn 2019 a 2020.
www.markllewelynevans.co.uk